Y Broses Cyngor 5 Cam
1. YMCHWILIO I'R FFEITHIAU
- Ymchwilio i'ch amgylchiadau personol a'ch trefniadau presennol
- Cadarnhau eich nodau ac amcanion
- Egluro ein costau a'n gwasanaethau
- Casglu data i'n helpu adolygu'r cynlluniau sydd gennych yn barod
- Cwblhau'r holiadur proffil risg a chadarnhau eich agwedd tuag at risg
2. DADANSODDI'R DATA A'R YMCHWIL
- Byddwn yn cynnal dadansoddiad trylwyr o'r trefniadau sydd gennych eisoes; byddwn yn ystyried perfformiadau'r polisïau, y costau ac unrhyw oblygiadau fydd yn effeithio ar eich dewis amcanion.
- Byddwn yn ymchwilio i ac yn cymharu'r opsiynau sydd ar y farchnad ac sy'n bodloni eich anghenion. Wedyn byddwn yn dechrau ymchwilio a didoli'r cronfeydd.
3. ARGYMHELLION A CHYNGOR
- Byddwn yn trafod ein canlyniadau ac yn rhoi manylion unrhyw argymhellion sy'n helpu cyrraedd eich nodau.
- Cytuno ar unrhyw weithredoedd er mwyn rhoi'r argymhellion hyn ar waith.
4. GWEITHREDU
- Byddwn yn cydweithio gyda'r darparwyr y cytunwyd arnynt i sicrhau fod y broses o ymgeisio am yr opsiwn a ddewiswyd yn llyfn, ac yn eich hysbysu o gynnydd yn ystod y broses.
- Byddwn yn rhoi cadarnhad ysgrifenedig o'n holl argymhellion ichi er mwyn i chi cael copi o'r hyn a drafodwyd ac a gytunwyd.
5. ADOLYGIADAU RHEOLAIDD
- Yn dibynnu ar lefel y gwasanaeth parhaus a gytunwyd arno yn ystod y cyfarfod cyntaf i ymchwil i'r ffeithiau, byddwn yn parhau i fonitro eich portffolio trwy gynnal adolygiadau rheolaidd.