Gwasanaethau Rhagolygon Pensiwn

Mae’n bwysig gwybod beth fydd gwerth eich pensiwn adeg ymddeol ac os bydd yn diwallu’r incwm sydd ei angen arnoch.

Bydd y ffigur terfynol yn dibynnu ar y cyfraniadau a dalwyd ac ar berfformiad y buddsoddiad.
Gall Rees Astley helpu diwallu eich anghenion wrth ymddeol trwy asesu eich pensiynau presennol trwy ragamcanu eich pensiwn a dadansoddi unrhyw ddiffyg. 

RHAGOLYGON PENSIWN

Edrych ar eich trefniadau presennol a rhagamcanu eu gwerth adeg ymddeol a lefel yr incwm y gellir ei ddisgwyl.   

DADANSODDI DIFFYG
Os oes gennych syniad o lefel yr incwm byddech yn hoffi ei gael adeg ymddeol, gallwn lunio dadansoddiad o ddiffyg. Trwy edrych ar eich pensiynau presennol, gallwn gyfrifo os byddwch yn cael yr incwm byddech yn dymuno ei gael ac os oes diffyg, byddwn yn gallu eich cynghori ynghylch unrhyw gyfraniadau ychwanegol y bydd angen eu gwneud.