Cynllunio Ymddiriedolaethau

Mae cynllunio ymddiriedolaethau’n waith pwysig, ond yn aml caiff ei hepgor fel rhan o’ch trefniadau ariannol. Mae rhoi eich cynilion, buddsoddiadau, polisïau bywyd neu asedau mewn ymddiriedolaeth, yn rhan bwysig o gynllunio eich ystâd bersonol.

BETH YW YMDDIRIEDOLAETH?

Yn gyffredinol, offeryn cyfreithiol yw ymddiriedolaeth a ddefnyddir i reoli’r ffordd y caiff eich asedau eu trosglwyddo i eraill.

Yr enw ar yr unigolyn sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth yw’r ‘setlwr’. Yr enw ar y bobl a bennir i weinyddu’r ymddiriedolaeth yw’r ymddiriedolwyr, a’r rhai sy’n elwa o’r ymddiriedolaeth yw’r buddiolwyr. Wedyn caiff yr asedau a gytunwyd eu cadw mewn ymddiriedolaeth i’w rhyddhau ar yr amser a ddewiswyd.

PAM DEWIS DEFNYDDIO YMDDIRIEDOLAETH?

Mae nifer o resymau dros sefydlu ymddiriedolaethau, megis diogelu dyfodol ariannol gŵr neu wraig, a diogelu asedau ar gyfer eich plant neu i’w rhoi i elusennau.

Maent yn hyblyg ac yn galluogi dosbarthu asedau ar yr amser a ddewisir ac ar yr un pryd lleihau’r cyfrifoldeb o safbwynt treth etifeddiant.

Gall fod yn faes cymhleth, felly cysylltwch â ni os hoffech ddysgu mwy am sefydlu ymddiriedolaethau fel rhan o'ch cynllun ar gyfer eich ystâd bersonol a gallwn helpu adnabod yr atebion mwyaf priodol i ddiwallu eich anghenion a'ch amcanion.

Cynllunio'ch Ystâd Bersonol