Cynllunio Pensiynau ar gyfer Perchnogion Busnes

I’r mwyafrif o berchnogion busnes, mae pensiynau’n rhan bwysig o’r cynllun ariannol a gellir eu defnyddio i dynnu elw a chynllunio o safbwynt treth.

Hefyd gellir defnyddio pensiynau i dal eiddo ac adeiladau’r cwmni a rhoi benthyciadau i’r cwmni hyd yn oed os oes angen cyllid cyfalaf.

TYNNU ELW

Trwy weithio’n agos gyda’ch cyfrifydd i dynnu cyllid o elw’r cwmni mewn dull sy’n dreth-effeithiol, adnabod pa gyfran o’r elw y dylid ei thalu fel cyflog a pha gyfran fel difidendau.

CYNLLUNIO EIDDO MASNACHOL GYDA PHENSIYNAU BUDDSODDI PERSONOL (SIPPS) A CHYNLLUNIAU BACH PERSONOL (SSASS)

Gellir defnyddio cronfeydd pensiwn i brynu eiddo masnachol. Wedyn gellir rhentu’r eiddo allan i greu incwm ar gyfer y gronfa pensiwn. Gall SIPP a SSAS fenthyg hyd at 50% eu gwerth, er mwyn hwyluso prynu eiddo. Gall prynu eiddo masnachol trwy bensiwn hefyd fod yn ddull treth-effeithiol arall o dynnu elw.

BENTHYCIADAU O GYNLLUN PENSIWN

Gall cynllun pensiwn galwedigaethol cofrestredig roi benthyciad i gyflogwr sy’n noddi neu unrhyw un arall sydd heb gysylltiad ag unrhyw aelod. Dylid gwarantu unrhyw fenthyciadau i gyflogwr sy’n noddi a dylai fod ar sail fasnachol.
O fis Hydref 2012 mae deddfwriaeth o ran pensiynau wedi newid. Bydd gofyn i bob busnes sefydlu cronfa pensiwn ar gyfer gweithwyr cymwys. Bellach mae’n orfodol i gyflogwyr gofrestru gweithwyr cymwys yn awtomatig ar gynllun pensiwn. Mae cofrestru awtomatig yn dod i rym yn raddol; mae’n cychwyn gyda chyflogwyr mwyaf y DU. Felly os ydych yn gymwys, a dydych chi heb gofrestru eto, dylai hyn digwydd erbyn Ebrill 2019.

Mae’r uchod yn weithrediadau cymhleth, ac mae angen gwybodaeth fanwl, cynllunio trylwyr ac ystyriaeth drwyadl. Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach.