Cyngor ar Gynlluniau Pensiwn Cyflog Terfynol
Beth yw cynllun pensiwn cyflog terfynol?
AMath o bensiwn gyda buddion wedi’u diffinio yw cynllun cyflog terfynol, a gynigir gan gyflogwyr. Seilir eich buddion adeg ymddeol ar eich enillion a hyd eich aelodaeth yn y cynllun. Gellir cymryd y buddion adeg ymddeol fel incwm yn unig neu fel cyfandaliad sy’n rhydd rhag treth ac incwm. Gall buddion y pensiwn hefyd fod ar gael i ddibynyddion os byddwch yn marw neu gellir eu talu’n gynnar os byddwch yn sâl cyn oedran ymddeol. Yn wahanol i drefniadau pensiwn eraill, mae’r swm a dderbynnir adeg ymddeol yn cael ei warantu, a gall y buddion gynyddu’n flynyddol i fantoli effaith chwyddiant.
SUT MAE’N GWEITHIO?
Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau cyflog terfynol yn rhoi buddion a seilir ar y 4 elfen allweddol ganlynol:
- Nifer y blynyddoedd rydych wedi cyfrannu at y cynllun
- Eich cyflog - gall fod yn gyflog terfynol adeg ymddeol, neu gyfartaledd eich cyflog yn ystod eich gyrfa
- ‘Cyfradd cynnydd’ eich cynllun pensiwn - sef fformiwla a ddefnyddir i gyfrifo eich incwm terfynol adeg ymddeol.
- Mae’r 'gyfradd cynnydd’ yn ffracsiwn o’ch cyflog (1/60 neu 1/80 fel arfer), sy’n cael ei luosi gan nifer y blynyddoedd rydych wedi cyfrannu at y cynllun.
SUT GALLWN NI HELPU
Mae gan Rees Astley ymgynghorydd awdurdodedig sy’n arbenigo mewn pensiynau sydd wedi ennill cymwysterau uwch ym maes pensiynau ac sydd wedi derbyn caniatâd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i roi cyngor ar gynlluniau pensiwn cyflog terfynol.
Gallwn wneud dadansoddiad manwl o’ch cynllun cyflog terfynol, trafod yr opsiynau sydd ar agor i chi, yn ogystal â’r risgiau potensial. Ymhlith pethau i’w hystyried mae:
- Beth fydd gwerth buddion eich cynllun ar ôl ichi ymddeol?
- Pa ffynonellau incwm potensial eraill sydd gennych ar ôl ymddeol?
- A fydd angen cyfandaliad sy’n rhydd rhag treth arnoch?
- Sut a phryd byddech yn hoffi tynnu eich buddion pensiwn?
- Beth yw’r buddion i’ch gŵr/gwraig a dibynyddion?
- Ydych chi’n disgwyl i’ch iechyd fod yn dda adeg ymddeol?
Pensiynau
Swyddfa Gwasanaethau Ariannol
- Cyfeiriad: Tŷ Mostyn, Stryd y Farchnad, Y Drenewydd, Powys, SY16 2PQ
- Rhif ffôn: 01686 626616
- Ebost: newtown@reesastley.co.uk