Adolygu Treth Etifeddiant

IMae’n bwysig cofio, pan fyddwch yn marw, gall eich ystâd bersonol fod yn destun treth etifeddiant (IHT) os bydd yn werth mwy na’r trothwy. Trwy gynllunio’n ofalus gellir lleihau’r swm sy’n daladwy.

Y TROTHWY TRETH ETIFEDDIANT

Mae gan bob unigolyn hawl i fand cyfradd dim treth, sef swm eich ystâd bersonol hyd at werth y trothwy dim treth, heb orfod talu IHT. 

Os caiff eich ystâd ei adael i rywun, ar wahân i’ch gŵr/gwraig neu bartner sifil, bydd Treth Etifeddiant yn daladwy ar raddfa 40% ar y swm dros y trothwy.

Y trothwy treth etifeddiant i bob unigolyn yw  £325,000, felly gall cyplau priod a phartneriaid sifil gael ystâd rhyngddynt o £650,000 cyn gorfod talu Treth Etifeddiant.

Gellir lleihau maint yr ystâd sy’n drethadwy mewn ffyrdd amrywiol, megis trwy roddion yn ystod eich bywyd, ymddiriedolaethau, rhoi i elusennau a chynlluniau eraill. Gallwn eich cynorthwyo i roi trefniadau priodol yn eu lle.

EIN GWASANAETH ADOLYGU TRETH ETIFEDDIANT

Os ydych yn pryderu y bydd eich ystâd bersonol yn destun treth etifeddiant, byddem yn argymell trefnu apwyntiad gydag un o’n hymgynghorwyr fydd yn gallu helpu gweithio allan y dreth etifeddiant fydd yn daladwy yn seiliedig ar eich amgylchiadau presennol, ac amlinellu unrhyw eithriadau sy’n berthnasol ichi efallai  ac ystyried unrhyw ffactorau pwysig eraill mewn perthynas â’r agwedd gymhleth hon ar gynllunio ariannol.

Wedyn gallwn helpu manteisio i’r eithaf ar eich mynediad at eich cyfoeth, tra ar yr un pryd lleihau’r dreth sy’n daladwy gan eich buddiolwyr adeg eich marwolaeth.

Byddem yn argymell gwirio gwerth eich ystâd bersonol yn rheolaidd, oherwydd mae asedau megis eiddo a buddsoddiadau'n gallu newid yn sylweddol, a gall olygu fod eich ystâd yn symud dros y trothwy heb ichi sylweddoli.

Cynllunio'ch Ystâd Bersonol