Beth yw pensiwn ?
Yn syml iawn, dull hir dymor, treth-effeithiol o arbed arian yw pensiwn, a’r nod yw creu cronfa i’w defnyddio adeg ymddeol. Dylai cynllun pensiwn effeithiol, sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd, cyfrannau i raddau at roi lefel incwm rhesymol ichi pan fyddwch yn ymddeol.
Mae pensiynau o bob math a maint ar gael; maent yn gallu bod yn syml neu’n gymhleth.
Mae tri phrif ffynhonnell o fuddion pensiwn ar gael: y wladwriaeth, pensiwn cwmni a/neu bensiwn personol.
PENSIWN Y WLADWRIAETH
Cynllun yw hwn lle mae unigolion yn cynilo arian trwy gyfraniadau yswiriant gwladol, ac wedyn byddwch yn derbyn taliad rheolaidd gan y llywodraeth pan fyddwch yn ymddeol.
PENSIWN GWAITH
Cynllun pensiwn yw hwn a drefnir trwy eich cyflogwr a thelir canran o’ch cyflog yn awtomatig i’ch cronfa pensiwn bob tro byddwch yn derbyn eich cyflog.
PENSIWN PERSONOL
Cytundeb unigol yw hwn a drefnir rhyngoch chi a’r cwmni sy’n darparu’r pensiwn. Mae’r llywodraeth yn cynnig anogaeth ichi arbed treth er mwyn cynilo arian i’w defnyddio adeg ymddeol. Mae tair anogaeth ynghlwm wrth bensiwn personol, sef:
- Rhyddhad rhag treth ar gyfraniadau
- Twf sy’n rhydd rhag treth
- Cyfandaliad sy’n rhydd rhag treth ar gychwyn eich pensiwn (o 55 oed)
Pensiynau
Swyddfa Gwasanaethau Ariannol
- Cyfeiriad: Tŷ Mostyn, Stryd y Farchnad, Y Drenewydd, Powys, SY16 2PQ
- Rhif ffôn: 01686 626616
- Ebost: newtown@reesastley.co.uk