Rheoli Cyfoeth

Llunio strategaeth buddsoddi a chynllun ariannol i ddiwallu nifer o nodau ariannol cyfanred yw Rheoli Cyfoeth. Mae cynllunio ariannol yn rhan hanfodol o reoli’r cynllun cyfoeth.

Gallwch ddibynnu ar gwmni Rees Astley i weithio mewn ffordd ddeallus ar eich rhan mewn perthynas â rheoli cyfoeth. Rydym wedi rheoli a diogelu cyfoeth teuluoedd ers cenedlaethau. Ein nod yw cynnig perthynas gefnogol a diffuant i chi ddibynnu arni pryd bynnag fo angen.

EIN GWASANAETHAU

Trwy'r broses gynhwysfawr o ymchwilio i'ch amgylchiadau, byddwn yn cadarnhau eich nodau ariannol, eich dyheadau a'ch amcanion; wedyn byddwn yn gwerthuso eich asedau'n llawn. Awn ati wedyn i lunio cynllun ariannol pwrpasol a strategaeth buddsoddi i fodloni eich anghenion ariannol. Ar ôl trafod a chytuno'r rhain gyda chi, byddwn yn datblygu'r strategaeth nes ei weithredu. Wedyn byddwn yn adolygu ac yn monitro eich buddsoddiadau a'ch amcanion yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i gyrraedd eu targedau.

Rheoli Buddsoddiadau