Gwasanaeth Cymharu Blwydd-dal

Beth yw blwydd-dal?

AIncwm diogel, rheolaidd yw blwydd-dal; rydych yn ei brynu gan gwmni yswiriant gan ddefnyddio eich cronfa pensiwn. Nod blwydd-dal yw sicrhau incwm cyson yn ystod eich ymddeoliad.

Pan fyddwch yn ymddeol, gellir cymryd hyd at 25% o gyfanswm eich cronfa pensiwn fel cyfandaliad sy’n rhydd rhag treth.  Wedyn gellir trosglwyddo’r gweddill i flwydd-dal fydd yn talu incwm ichi sy’n destun treth. Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn yn caniatáu ichi brynu blwydd-dal o 55 oed.

YSTYRIED YR OPSIYNAU BLWYDD-DAL

Wrth ddewis eich blwydd-dal dylid ystyried y canlynol;

  • Fyddech chi’n hoffi i’r incwm gael ei dalu i’ch gŵr/gwraig/partner os byddwch yn marw
  • Fyddech chi’n hoffi i’ch incwm gynyddu’n flynyddol
  • Pryd a pha mor aml hoffech chi dderbyn y taliadau
  • Beth yw cyflwr eich iechyd

CYMHARU OPSIYNAU BLWYDD-DAL

Mae mathau amrywiol o flwydd-daliadau ar gael: cyson, cynyddol, bywyd unigol, cydfywyd, buddsoddiad-gyswllt, amrywiol neu hyblyg, tymor penodol a lefel uwch. Maent oll yn cynnig amrediad o opsiynau incwm gwahanol sy’n addas at eich anghenion. Mae’n bwysig dewis yr un cywir, oherwydd ar ôl ei brynu nid yw’n bosib newid eich meddwl a newid i flwydd-dal arall.

SIOPA O GWMPAS

Ar ôl penderfynu ar lefel yr incwm byddech yn ei hoffi, dylech fynd ati i siopa o gwmpas a chymharu’r cyfraddau. Mae’n golygu nad oes rhaid ichi dderbyn y pensiwn a gynigir gan eich darparwr presennol, ond gallwch fynd at ddarparwr arall i gael cyfradd uwch. Yr enw ar hyn yw ‘opsiwn marchnad agored’ (OMO). Gellir cynyddu’ch incwm ar ôl ymddeol yn sylweddol trwy siopa o gwmpas a gall rhoi mynediad at ystod ehangach o opsiynau. Os nad yw eich iechyd yn dda, gallwch fod yn gymwys ar gyfer blwydd-dal lefel uwch neu anghyflawn.

Pam mae cyngor yn bwysig

Mae prynu blwydd-dal yn benderfyniad mawr, fell y mae’n ddoeth cael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol.

Gall Rees Astley eich helpu gyda’r broses hon. Byddem yn cysylltu â’ch darparwr pensiwn cyfredol i weld beth fydden nhw’n ei gynnig. Wedyn byddem yn ymchwilio i’r farchnad gyfan a chymharu’r canlyniadau gyda’r hyn y gall darparwr arall ei gynnig. Yn olaf, byddem yn crynhoi’r canlyniadau ac argymell opsiwn sy’n addas at eich anghenion chi.

OES DEWIS ARALL YN LLE BLWYDD-DAL?

Mae dewisiadau eraill yn ogystal â phrynu blwydd-dal. Gellir cael incwm ar gyfer eich ymddeoliad trwy nifer o atebion gwahanol. Hwyrach bod dewis arall yn fwy addas na blwydd-dal. Dylid cyfeirio at yr adran 'opsiynau ymddeol' neu cysylltwch â ni am fanylion pellach.

Cynllunio i ymddeol