Amdanom Ni

Cefndir Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol Rees Astley

Blaengynllunio gydag Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol Rees Astley

Lleolir ein tîm o Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol hynod brofiadol yn y Drenewydd - maent yn gymwys i roi cyngor ar holl agweddau ar gynllunio ariannol, rheoli pensiynau a chyfoeth.

Blynyddoedd lawer o gyngor ariannol cymwys

Sefydlwyd Rees Astley ym 1969, ac mae’r cwmni wedi rhoi cyngor ariannol annibynnol ers hynny.
Mae gan ein holl ymgynghorwyr o leiaf 25 mlynedd o brofiad ym maes cyngor ariannol - i gleientiaid unigol a chorfforaethol - ac mae tîm o weinyddwyr profiadol yn eu cefnogi.
Mae ein hagwedd waith flaengar i’w gweld yn lefel gyson y cyngor cadarn a diduedd a gynigir yn ddyddiol gan ein hymgynghorwyr ariannol annibynnol llawn gymwys.

Aros yn lleol

Sefydlwyd Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol Rees Astley yn y Drenewydd, ac yno mae’r brif swyddfa o hyd; ond mae swyddfeydd eraill yn Aberystwyth a’r Amwythig. Ers cychwyn y cwmni, rydym wedi magu presenoldeb cadarn, ac rydym dal yn ymrwymedig i wasanaethu’r ardal o unrhyw un o’n swyddfeydd.

Boddhad cleientiaid yn parhau

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn derbyn adborth cadarnhaol yn gyson gan gleientiaid; ac mae llawer ohonynt yn dod atom dro ar ôl tro oherwydd ansawdd y cyngor ariannol annibynnol a ddarperir.

Gan adeiladu ar ein llwyddiant, rydym wedi addasu i newidiadau yn y farchnad, ond wedi glynu wrth yr egwyddor o ganolbwyntio ar gynnig atebion pwrpasol i bob cleient unigol.

Rydym yn falch o’n gallu i weithio mewn ffordd syml a didwyll o ran cynnig gwasanaeth cynllunio ariannol, yn ogystal â chyngor cyfeillgar, diffwdan.


EIN HANES