Adolygu'ch Pensiwn

Efallai bod gennych bensiynau amrywiol gyda chwmnïau gwahanol trwy gyflogwyr blaenorol. Mae’n bwysig sicrhau bod eich pensiynau’n gweithio’n effeithiol ar eich rhan. Ydych chi’n gwybod sut mae’n perfformio? Oes ffioedd uchel ynghlwm wrtho? Beth yw’r lefel risg? A fydd digon yn y gronfa pensiwn adeg ymddeol?

Bydd eich incwm wrth ymddeol yn dibynnu ar faint eich cronfa pensiwn terfynol.  Gall ffioedd eithafol, perfformiad gwael neu oedi wrth ddelio gyda phrinder cyfraniadau cael effaith ddramatig ar eich cronfa.

Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw un o’r uchod, byddem yn argymell adolygu eich cynlluniau pensiwn. Gall Rees Astley helpu egluro eich trefniadau presennol trwy roi trosolwg o’ch pensiynau ichi, ynghyd ag adolygu’r perfformiad, y ffioedd a hyblygrwydd gan gynnwys rhoi rhagolygon o ran ymddeol.

GALLWN ADOLYGU’R MATHAU CANLYNOL O BENSIYNAU:
  • Blwydd-dal gohiriedig
  • Cynlluniau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Annibynnol
  • Cynlluniau Pensiwn Personol
  • Contract Blwydd-dal Ymddeol
  • Adran 226
  • Adran 32
  • Pensiwn Buddsoddi Personol
  • Pensiwn Rhanddeiliaid
  • Bond Caffaeliad Ymddiriedolwyr

CYNLLUNIAU PENSIWN CWMNÏAU
  • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol
  • Cynllun Pensiwn â Buddion wedi’u diffinio
  • Cynllun Pensiwn Gweithredol
  • Cynllun Cyflog Terfynol
  • Cynllun Prynu â Chyllid Grŵp
  • Pensiwn Personol - Grŵp
  • Pensiwn Rhanddeiliaid - Grŵp
  • Cynllun Galwedigaethol
  • Cynllun Bach Hunanroeddedig